Ysgolion Creadigol Arweiniol / Lead Creative Schools
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod Ysgol Gynradd Gymraeg Gorslas wedi’i dewis yn swyddogol fel Ysgol Greadigol Arweiniol, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.
Mae’r cynllun yn meithrin partneriaethau rhwng ysgolion a gweithwyr creadigol proffesiynol. Mae’r cydweithio hwn yn anelu at:
- Ysbrydoli dulliau dysgu newydd ac arloesol
- Annog disgyblion i gymryd rhan weithredol yn eu haddysg
- Meithrin hyder, creadigrwydd a sgiliau meddwl beirniadol
Yn Ysgol Gynradd Gymraeg Gorslas, rydym yn ymroddedig i ddarparu cwricwlwm sy’n ysbrydoli ac yn ysgogi. Trwy ymuno â’r cynllun hwn, rydym yn gallu:
- Ehangu cyfleoedd i blant ddysgu mewn ffyrdd creadigol
- Cefnogi datblygiad sgiliau trawsgwricwlaidd
- Paratoi disgyblion i wynebu heriau’r byd modern
- Meithrin dysgwyr hyderus, chwilfrydig ac uchelgeisiol
You have not allowed cookies and this content may contain cookies.
If you would like to view this content please
Mae Dosbarth Bedwen newydd gwblhau prosiect creadigol cyffrous, lle bu’r bardd Dr Aneirin Karadog a’r artist Gemma Fala yn cydweithio gyda’r disgyblion i greu anthem ysgol a murlun gwydr unigryw. Mr Evans ydy cydlynydd y prosiect.
We’re proud to share that Ysgol Gynradd Gymraeg Gorslas has officially been recognised as a Lead Creative School, supported by the Arts Council of Wales and the Welsh Government.
This scheme builds partnerships between schools and professional creatives. These collaborations aim to:
- Inspire new and innovative ways of teaching
- Encourage pupils to take an active role in their learning
- Build confidence, creativity, and critical thinking
At Ysgol Gynradd Gymraeg Gorslas, we’re committed to delivering a curriculum that inspires and motivates. The project aims to:
- Expand opportunities for creative learning
- Support the development of cross-curricular skills
- Prepare pupils for the challenges of the modern world
- Nurture confident, curious, and independent learners
🔗 For more information about the scheme, visit the Arts Council of Wales website.
You have not allowed cookies and this content may contain cookies.
If you would like to view this content please
Dosbarth Bedwen has recently completed an exciting creative project, where poet Dr Aneirin Karadog and artist Gemma Fala worked with the pupils to create a unique school anthem and stained glass mural. The project is coordinated by Mr Evans.