Skip to content ↓

Dreigiau Digidol

Dreigiau Digidol Ysgol Gynradd Gymraeg Gorslas

Rydym yn griw brwdfrydig o ddisgyblion sydd wedi cael ein dewis oherwydd ein sgiliau a’n diddordeb ym maes TGCh i fod yn aelodau o Dîm y Dreigiau Digidol. Rydym yn cwrdd i ddatblygu ein sgiliau digidol ymhellach, cefnogi disgyblion eraill, ac i rannu ein gwybodaeth o fewn ein dosbarthiadau.

Ein nod yw hyrwyddo defnydd diogel, cyfrifol ac ystyriol o dechnoleg ar draws Ysgol Gynradd Gymraeg Gorslas. Fel cynrychiolwyr digidol ein dosbarthiadau, rydym yn gweithio’n agos gyda staff ac aelodau eraill o’r gymuned ysgol i sicrhau bod pawb yn teimlo’n hyderus wrth ddefnyddio technoleg.

Rydym yn helpu i ledaenu negeseuon am ddiogelwch ar-lein ac yn cynnig cymorth gyda defnyddio offer digidol. Trwy ein gwaith, rydym yn sicrhau bod lleisiau disgyblion yn ganolog i ddatblygiadau digidol yr ysgol, gan baratoi pawb i ddefnyddio technoleg yn gyfrifol yn y byd modern.

 

Digital Dragons – Ysgol Gynradd Gymraeg Gorslas

We are an enthusiastic group of pupils who have been chosen to be part of the Digital Dragons team because of our skills and interest in ICT. We meet regularly to further develop our digital skills, support other pupils, and share our knowledge within our classes.

Our aim is to promote the safe, responsible and thoughtful use of technology across Ysgol Gynradd Gymraeg Gorslas. As digital representatives of our classes, we work closely with staff and other members of the school community to ensure everyone feels confident when using technology.

We help spread messages about online safety and offer support with using digital tools. Through our work, we ensure that pupil voice is at the heart of the school’s digital development, helping prepare everyone to use technology responsibly in the modern world.

Dyma Dafydd ein Draig Digidol! 

Here's Dafydd our Digital Dragon!